Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-13-11 papur 2

 

At:               Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gan:            Y Gwasanaeth Pwyllgorau

 

Dyddiad:     Rhagfyr 2011

 

YMCHWILIAD I OFAL PRESWYL I BOBL HŶN: CYNLLUN GWAITH Y PWYLLGOR 

 

Diben

 

1.        Ddydd Iau 22 Medi 2011, cytunodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnal ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn. Diben y papur hwn yw ceisio cytundeb y Pwyllgor o ran sut i fwrw ymlaen â cham nesaf yr ymchwiliad hwn.

 

Cefndir                                               

 

2.        Cytunodd y Pwyllgor â chylch gorchwyl terfynol yr ymchwiliad ddydd Iau 20 Hydref 2011, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch ei gynnwys. Mae cylch gorchwyl terfynol yr ymchwiliad ynghlwm yn Atodiad A.

 

3.        Cyhoeddodd y Pwyllgor ddydd Llun 24 Hydref 2011 ei fod yn galw am dystiolaeth. Bydd y cyfnod ymgynghori o wyth wythnos yn dod i ben ddydd Gwener 16 Rhagfyr 2011. Neilltuwyd wyth wythnos ar gyfer y cyfnod ymgynghori i roi digon o amser i nifer fawr o randdeiliaid a’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau i’r ymchwiliad.

 

4.        O gofio cwmpas eang yr ymchwiliad, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol ystyried cynllun gwaith i fwrw ymlaen â cham nesaf yr ymchwiliad, a fydd yn cynnwys casglu tystiolaeth lafar. Mae’r dull o weithredu wedi’i amlinellu ym mharagraffau 5 – 12 yn y papur hwn.

 

Y dull o gasglu tystiolaeth lafar a awgrymir

 

5.        I sicrhau bod y Pwyllgor yn ymdrin â’r holl faterion a restrir yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad, awgrymir bod tystiolaeth lafar yn cael ei chasglu’n unol â dwy egwyddor:

 

                   (i)        Sesiynau tystiolaeth lafar i’w trefnu ar sail grwpiau buddiant (gweler paragraffau 6 – 8 isod);

 

                  (ii)        Dewis themâu penodol, fel y nodir yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad, i’r gwahanol Aelodau ymdrin â nhw yn ystod yr ymchwiliad (gweler paragraffau 9 –12 isod)

 

(i)     Sesiynau tystiolaeth lafar ar sail grwpiau budd

 

6.        I sicrhau bod y Pwyllgor yn ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau wrth gynnal yr ymchwiliad, awgrymir bod tystion yn cael eu gwahodd i ddod i’r Pwyllgor ar sail y grŵp buddiant y maent yn perthyn iddo.

 

7.        Byddai sesiynau unigol yn cael eu trefnu i ganolbwyntio ar safbwyntiau sectorau / lleisiau penodol er enghraifft:

 

-               Defnyddwyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr;

-               cyrff yn y sector cyhoeddus;

-               darparwyr yn y sector preifat;

-               cyrff a darparwyr yn y trydydd sector;

-               cyrff proffesiynol a chyrff staff;

-               rheoleiddiwyr ac arolygwyr

-               Llywodraeth Cymru.

 

8.        Os yw’r Pwyllgor yn penderfynu bwrw ymlaen gan ddilyn y drefn hon,  cynigir y dylid paratoi:

-               rhestr o dystion posibl

-               amserlen fras o’r sesiynau tystiolaeth lafar,

        wedi i’r dyddiad cau ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig fynd heibio (16 Rhagfyr). Gallai’r Pwyllgor ystyried y papur hwn yn fuan ar ôl toriad y Nadolig gyda’r bwriad o ddechrau’r sesiynau tystiolaeth lafar ddechrau mis Chwefror 2012.[1]

 

(ii)   Rhannu themâu allweddol ymhlith yr Aelodau

 

9.        I sicrhau bod y Pwyllgor yn ymdrin â phob agwedd ar yr ymchwiliad hwn, awgrymir bod aelod(au) penodol o’r Pwyllgor yn gyfrifol am bob un o’r pwyntiau bwled a restrir yn y cylch gorchwyl (hynny yw, pob thema allweddol).

 

10.     Yn ymarferol, byddai hyn yn golygu y byddai’r Pwyllgor yn gofyn i Aelod A ac Aelod B ganolbwyntio ar gasglu gwybodaeth yn ymwneud â’r pwynt bwled cyntaf yn y cylch gorchwyl drwy gydol yr ymchwiliad; byddai Aelod C ar y llaw arall yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â phwynt bwled dau etc.

 

11.     Byddai pwrpas deublyg i’r dull hwn o weithredu:

-               yn gyntaf, sicrhau bod pob agwedd ar yr ymchwiliad yn cael ei hystyried ym mhob cyfarfod os dilynir y drefn a amlinellir ym mharagraffau 6 a 7 yn seiliedig ar ‘grwpiau buddiant;

-               yn ail, rhoi cyfle i’r Aelodau feithrin arbenigedd mewn agwedd benodol ar ymchwiliad y Pwyllgor.

 

Ni fyddai hyn yn atal yr Aelodau mewn unrhyw ffordd rhag gofyn cwestiynau am bynciau oddi allan i’w themâu penodol nhw, ond byddai’n sicrhau bod pob thema’n cael ei hystyried, mewn perthynas â’i gilydd.

 

12.     Os bydd yr Aelodau’n penderfynu dilyn y drefn hon, cynigir bod y Pwyllgor yn ystyried (ac yn penderfynu) pwy fydd yn arwain ar bob ymchwiliad ar ôl toriad y Nadolig, wrth drafod tystion posibl ac amserlen yr ymchwiliad.    

 

Ystyriaethau eraill

 

13.     Er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn, gallai’r Aelodau hefyd ystyried y canlynol:

 

(i)     Cyngor arbenigol

 

14.     Mae’r Rheolau Sefydlog yn caniatáu i’r Pwyllgor benodi arbenigwr/wyr i’w gynorthwyo â’i waith, os yw’n penderfynu y byddai hynny’n briodol. Diben cyngor o’r natur hwn yw:

 

-               ategu, yn hytrach na dyblygu, arbenigedd mewnol y Gwasanaeth Ymchwil 

 

-               ychwanegu gwerth at drafodaethau’r Pwyllgor ar y pwnc dan sylw.

 

15.     O gofio cwmpas yr ymchwiliad hwn, awgrymir bod y Pwyllgor yn cytuno o ran egwyddor i ystyried penodi cynghorwr arbenigol ar gyfer yr ymchwiliad.

 

16.     Os yw’r Aelodau yn cytuno â’r cynnig ym mharagraff 15, gallai’r Pwyllgor nodi cynghorwyr posibl i’w hystyried yn fuan ar ôl toriad y Nadolig, wrth drafod tystion posibl ac amserlen yr ymchwiliad.       

 

 

(ii)   Ennyn diddordeb y cyhoedd

 

17.     I sicrhau bod y Pwyllgor yn clywed barn y cyhoedd am ofal preswyl i bobl hŷn - gan gynnwys barn defnyddwyr presennol a darpar ddefnyddwyr y gwasanaethau hyn - efallai y bydd y Pwyllgor am gynnal rhyw weithgaredd i ennyn diddordeb y cyhoedd y tu hwnt i’r galwadau arferol am dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig.

 

18.     Gellid:

 

-        Sefydlu grŵp cyfeirio o aelodau’r cyhoedd

 

Gellid defnyddio grŵp o’r fath i gyfrannu at drafodaethau’r Pwyllgor ar y themâu allweddol yn ystod yr ymchwiliad ac i gael eu barn am ddarganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor;

 

 

-        Ymweliadau anffurfiol

 

Gellid neilltuo amser yn ystod yr ymchwiliad i ganiatáu i’r Aelodau  ymweld yn anffurfiol â’u hetholaethau a’u rhanbarthau eu hunain. Diben yr ymweliadau hyn fyddai caniatáu i’r Aelodau ddeall materion perthnasol yn well a chasglu gwybodaeth i’w helpu i graffu’n ffurfiol ar dystiolaeth y tystion;

 

 

-        Casglu tystiolaeth ffurfiol oddi allan i’r Senedd

 

Efallai y bydd y Pwyllgor am gasglu tystiolaeth oddi allan i Gaerdydd e.e. er mwyn ystyried problemau’n ymwneud yn benodol ag amddifadedd neu ardaloedd anghysbell, efallai y bydd yr Aelodau am deithio oddi allan i’r brifddinas. Yn yr un modd, os bydd y Pwyllgor am ystyried effaith poblogaeth hŷn, frodorol wedi’i gyplysu â phoblogaeth hŷn, mudol ar wasanaethau,  gallai gasglu tystiolaeth ar hyd arfordir gogledd Cymru.

 

19.     Byddai gweithio yn ôl themâu (fel yr awgrymir ym mharagraffau 9 – 12 o’r papur hwn) yn galluogi’r Pwyllgor i gasglu tystiolaeth tu allan i’r Senedd heb i’r Pwyllgor cyfan gwrdd. Yn amodol ar anghenion cworwm[2], byddai’r Aelodau sy’n arwain ar themâu allweddol yn gallu arwain sesiynau tystiolaeth sy’n cael eu cynnal tu allan i Fae Caerdydd heb i bob Aelod fod yn bresennol.

 

20.     Os yw’r Pwyllgor am ymgymryd â gweithgareddau tebyg i’r rhai a nodir ym mharagraff 18, gallai Tîm Allgymorth y Cynulliad helpu’r Aelodau yn y cyswllt hwn.

Y cynnig

 

21.     Gwahoddir y Pwyllgor i:

 

-        ystyried a chytuno, o ran egwyddor, ar ddulliau o gasglu tystiolaeth lafar (paragraffau 5 – 12)

 

-        ystyried y dewisiadau a amlinellwyd mewn perthynas â:

 

-     chyngor arbenigol (paragraffau 14 – 16); ac

-     ennyn diddordeb y cyhoedd (paragraffau 17 – 20),

 

a chytuno ar y modd y bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r dulliau hyn.

 

 


ATODIAD A

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn.

 

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad, fel y’i cytunwyd gan y Pwyllgor ar 20 Hydref 2011:

Ymchwilio i ddarpariaeth gofal preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall fodloni anghenion presennol pobl hŷn a’u hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:

-        y broses a ddilynir gan bobl hŷn wrth iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau ailalluogi a gofal yn y cartref.

-        gallu’r sector gofal preswyl i fodloni’r galw am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio, gan gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt, nifer y lleoedd a’r cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.

-        ansawdd gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion ymhlith pobl hŷn; a rheolaeth ar gau cartrefi gofal.

-        effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio ac archwilio gofal preswyl, gan gynnwys y cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau.

-        y modelau gofal newydd sy’n dod i’r amlwg.

-        y cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol, a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheini a gynigir gan y sector gydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector,  a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Penderfynodd y Pwyllgor y dylai’r ymchwiliad ganolbwyntio ar ofal preswyl, ond mae’n anochel y bydd trafodion yn cyffwrdd â materion sy’n ymwneud â gofal nyrsio.

 

Penderfynodd hefyd ganolbwytio ar y gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn, yn hytrach nag i oedolion yn fwy cyffredinol.

 



[1] Mae slotiau cyfarfodydd y Pwyllgor ar gyfer Ionawr 2012 eisoes wedi’u neilltuo ar gyfer busnes y Pwyllgor, gan gynnwys: cwblhau’r ymchwiliad i gyfraniad fferylliaeth gymunedol at wasanaethau iechyd yng Nghymru; sesiwn dystiolaeth ynghylch goblygiadau prinder toiledau cyhoeddus ar iechyd y cyhoedd; sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

[2] Yn unol â Rheol Sefydlog 17.31, mae’n rhaid i bedwar aelod fod yn yn bresennol i gynnal cyfarfod Pwyllgor ffurfiol; yn unol â Rheol Sefydlog 17.32, mae’n rhaid i gynrychiolwyr mwy nag un grwp gwleidyddol fod yn bresennol.